Mae adran ôl-raddedig Deintyddiaeth yn cynnwys addysg ôl-raddedig a hyfforddiant ar gyfer yr holl weithlu deintyddol (Deintyddion a Gweithwyr Gofal Deintyddol Proffesiynol) yng Nghymru.
Mae hyn yn cynnwys Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol, Craidd, ac Arbenigol ar gyfer Deintyddion, ynghyd â chyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer Deintyddion a Gweithwyr Gofal Deintyddol Proffesiynol. Mae'r rhain yn seiliedig ar ymchwil addysgol priodol ac ansawdd uchel bob tro er mwyn sicrhau eu bod yn ddeintyddion o'r radd flaenaf, gan ddiwallu holl anghenion gweithwyr deintyddol proffesiynol a'u cefnogi i ofalu am eu cleifion.
Mae adran ôl-raddedig Ddeintyddiaeth wedi caffael system archebu cwrs newydd, a lansiwyd ar 3ydd Ebrill 2017. Bydd rhaid i bob cwrs yn cael ei archebu drwy’r linc isod. Mae’n angenrheidol bob aelod galwedigaeth ddeintyddol gofrestru ar y system newydd yma er mwyn darganfod ac archebu cyrsiau sy’n cael eu darparu gan yr adran.
Os dych chi eisoes wedi cadw cwrs lle, dych chi’n gallu mynychu eto. Sut bynnag bydd rhaid i chi gofrestru ar lein cyn y cwrs er mwyn cael eich tystysgrif.
Y mae llawer o nodweddion gwell gan y system newydd yma, yn gynnwys medr i reoli eich archebion a thalu ar lein.
Er mwyn cofrestru, dilynwch y link yma os gwelwch yn dda a defnyddio’r canllaw cofrestru i helpu chi.
Beth ydym yn ei wneud | Cymorth Deintyddol Proffesiynol | Canolfannau Ôl-raddedig | Adnoddau Defnyddiol
Business hours
08:30 - 16:30 Mon - Fri
General enquiries
03300 584 219
heiw.dental@wales.nhs.uk
Ein cyrsiau
Mae'r adran Ôl-raddedig Deintyddiaeth yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau sy'n cwmpasu holl feysydd deintyddiaeth. Mae'r rhain yn cynnwys efelychiadau deintyddol (sesiynau ymarferol), diwrnodau astudio traddodiadol, cynadleddau a chyfleoedd Datblygu Proffesiynol Parhaus ar-lein. Mae'r holl gyrsiau yn yr adran hon yn bodloni gofynion y Cyngor Deintyddol Cyffredinol ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus dilys.
Rhagor am gyrsiau deintyddol
Cyrsiau Datblygu Proffesiynol Parhaus | Cyrsiau mewn Deintyddfeydd | Pynciau craidd
Termau ac amodau ar gyfer Datblygu Proffesiynol Parhaus
A oes cyfrif gennych?
Mewngofnodwch i'r adran Datblygu Proffesiynol Parhaus deintyddol ar-lein
Latest dental courses
Digwyddiadau diweddaraf
There are currently no events.